SL(5)XXX - The NHS Business Services Authority (Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG) (Establishment and Constitution) (Amendment) Order 2017

Cefndir a Phwrpas

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio The NHS Business Services Authority (Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG) (Establishment and Constitution) (Amendment) Order 2005("y prif Orchymyn") mewn perthynas â Chymru a Lloegr.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dileu'r rhwymedigaeth ar Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG ("y BSA") yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau yr Ysgrifennydd Gwladol ac yn unol â hwy i ymgymryd â rhai o'i swyddogaethau gwrth-dwyll a rheoli diogelwch penodol mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dileu'r ddarpariaeth mewn perthynas â rhai o swyddogaethau gwrth-dwyll Gweinidogion Cymru yr oedd yn ofynnol i'r BSA o dan y prif Orchymyn eu cyflawni mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau a allai gael eu rhoi gan Weinidogion Cymru ac yn unol â chyfarwyddiadau o'r fath.

Y weithdrefn

Offerynnau'r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol Cyfansawdd

Craffu Technegol

Nodir un pwynt ar gyfer adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn cyfansawdd hwn (a osodir gerbron y Cynulliad a Senedd y DU), sef nad yw wedi'i wneud yn y Gymraeg a'r Saesneg (Rheol Sefydlog 21.2 (ix)).

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Dim.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

04 Hydref 2017